Rhif y ddeiseb: P-06-1333

Teitl y ddeiseb:  Dylid atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag torri coed, sy’n bygwth parhad gwiwerod coch 

Testun y ddeiseb: Yn 2021, trafododd y Senedd Ddeiseb rhif P06-1208 i gael deddfau newydd i ddiogelu cynefin gwiwerod coch. Roedd y ddeiseb hefyd yn tynnu sylw at y modd yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ardal gogledd orllewin Cymru wedi methu â monitro poblogaethau gwiwerod yng nghoedwigoedd Niwbwrch a Phentraeth ar Ynys Môn.  Roedd gwaith ymchwil dilynol yn datgelu gostyngiadau diffwysol o ran gwiwerod yng nghoedwig Niwbwrch a oedd yn gysylltiedig â thorri gormod o goed. https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=37917

Nawr yng Ngwynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru unwaith eto yn torri coed heb ddata am wiwerod, gan awgrymu unwaith eto y gall 'canllawiau mewnol' annelwig wneud iawn am hyn.

Rhagor o fanylion

Mae’n anhygoel y gall Cyfoeth Naturiol Cymru integreiddio cadwraeth gwiwerod coch yn llwyddiannus â gwaith rheoli coedwigoedd masnachol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond yn gyfagos yn y gorllewin mae’n draed moch di-drugaredd.

Mae gwiwerod coch yng Ngwynedd wedi cael eu difa gan feirws brech y wiwerod. Llofnododd 10,000 o bobl Ddeiseb i 'Ariannu ymchwil i frechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws brech y wiwerod, sy’n farwol'.

https://bylines.cymru/environment/squirrelpox-endangers-red-squirrels-and-livelihoods/

Nawr mae'r ychydig wiwerod coch sydd wedi goroesi yn wynebu loteri o ran Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwaredu eu cartrefi yn ddall. O ystyried gwerth twristiaeth gwiwerod coch (sef £1 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn), gwerth y rhywogaeth o ran llesiant, ac ymrwymiadau niferus y Llywodraeth i warchod poblogaethau gwiwerod, pam mae’n frwydr gyson â Chyfoeth Naturiol Cymru yn ardal y gogledd orllewin?

A oes unrhyw syndod bod un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddifodiant?

https://naturalresources.wales/evidence-and-data/research-and-reports/state-of-natural-resources-interim-report-2019/challenges/?lang=cy

 


1.        Y cefndir

Poblogaethau gwiwerod coch

Roedd gwiwerod coch yn arfer bod yn gyffredin ledled Cymru. Fodd bynnag, mae poblogaethau'r DU wedi dioddef gostyngiadau sylweddol yn dilyn rhyddhau a lledaenu gwiwer lwyd Gogledd America yn y 19eg canrif. Mae hyn oherwydd lledaeniad clefydau (feirws brech y gwiwerod yn bennaf) a chystadleuaeth am adnoddau. Mae gwiwerod coch hefyd wedi dioddef yn sgil colli a rhannu cynefinoedd.

Yn ôl yr Ymddiriedolaethau Natur, mewn tua 150 mlynedd, mae nifer y gwiwerod coch ledled y DU wedi gostwng o tua 3.5 miliwn i 140,000. Yn 2020 rhyddhaodd y Gymdeithas Mamaliaid Rhestr Goch ar gyfer Mamaliaid Prydeinig(Saesneg yn unig), gan nodi'r rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl. Mae’r wiwer goch yn cael ei dosbarthu fel un 'mewn perygl' ac mae'n un o'r 19 o rywogaethau yr ystyrir eu bod mewn perygl o ddiflannu ym Mhrydain.

Mae tair prif boblogaeth gwiwerod coch yng Nghymru ar Ynys Môn, yng Nghoedwig Clocaenog yn y gogledd, a Chlywedog yng nghanolbarth Cymru.

Dim ond yn y prif ardaloedd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro poblogaethau gwiwerod coch. Mae llythyr Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ynghylch y ddeiseb hon yn dweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydnabod bod Gwynedd wedi dod yn ardal bwysig ar gyfer gwiwerod coch a bod nifer y gwiwerod a welwyd ym Mharc y Bwlch wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf. Pan fydd pobl yn gweld gwiwer goch, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu hannog i’w gofnodi drwy UK Squirrel Accord.

Rheoli coetiroedd

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n rheoli ystad goetir Llywodraeth Cymru. Maeystad goetir Llywodraeth Cymru yn cyfrif am tua 40 y cant o gyfanswm adnodd coedwigoedd Cymru a 6 y cant o gyfanswm arwynebedd tir Cymru.

O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd statudol i 'geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth' i'r graddau y bo’n gyson ag arfer ei swyddogaethau'n briodol. Yn ei gyhoeddiad, Diben a rôl Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi:

Un o rolau ystad goetir Llywodraeth Cymru yw cynnal a gwarchod amrywiaeth biolegol ecosystemau coetir Cymru, a’u gwella yn briodol.

Ardystio coetiroedd

Mae’r coetiroedd a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu hardystio gan ddau gorff, sef y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC) a'r Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC). Mae'r cynlluniau ardystio coedwigoedd achrededig hyn yn seiliedig ar Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig, sef safon ardystio annibynnol ar gyfer dilysu’r gwaith o reoli coetiroedd yn gynaliadwy yn y DU. Mae Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig yn nodi'r angen i gymryd mesurau priodol i warchod cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth a nodwyd, yn unol â'r cynlluniau y cytunwyd arnynt gydag asiantaethau cadwraeth natur.

Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi manylion unrhyw rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd â blaenoriaeth y gallai ei weithrediadau effeithio arnynt mewn Cynllun Adnoddau Coedwig. Mae hyn yn cynnwys gweithrediadau o fewn yr uned rheoli coetirneu'r ardal gyfagos, a'r effaith o sabwynt y tirwedd neu gysylltedd. Mae Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd yn nodi amcanion tymor hir ac maent yn sail ar gyfer rhaglenni gwaith 10 mlynedd.

Caiff Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd eu diweddaru bob 10 mlynedd, gan gasglu gwybodaeth drwy gynnal arolygon o safleoedd a thrwy’r Ganolfan Cofnodion Lleol, sy’n cadw cofnod o’r bywyd gwyllt a welwyd yn yr ardal.

Rhoddir y Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru i roi cyfle pellach i ymgyngoreion allanol roi adborth a sylwadau ar y cynlluniau.

Mae llythyr y Gweinidog ynghylch y ddeiseb hon yn dweud ei bod yn ymddangos bod y ddeiseb wedi codi yn dilyn un o gyfarfodydd Cyfoeth Naturiol Cymru lle trafodwyd y gwaith cwympo coed sydd wedi'i gynllunio ym Mharc y Bwlch, Mynydd Llandygai, Gwynedd. Dywed Llywodraeth Cymru fod Parc y Bwlch yn rhan o Gynllun Adnoddau Coedwig Bethesda ac Abergwygregyn a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac a ddiweddarwyd yn 2021 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd Dr Shuttleworth, y deisebydd, wedi dweud wrth Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn anghytuno â'r Cynllun Adnoddau Coedwig ac na ddylid torri coed er nad oedd Parc y Bwlch yn rhan o’r prif safle gwiwerod coch. Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud y canlynol:

Coed llarwydd yn bennaf sydd yn yr ardal lle mae’r coed yn cael eu cwympo, sydd â thueddiad o gael Phytophthora Ramorum neu Glwyf Marwol Sydyn y Derw, ac sy’n rhan o raglen waredu llarwydd CNC.  Mae’r coed o’r un oedran, wedi cyrraedd eu huchder llawn, ac yn dueddol o gael eu chwythu trosodd gan y gwynt. Fodd bynnag, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2021, hanerodd CNC faint y llannerch oedd yn cael ei chwympo, gan oedi hanner y gwaith cwympo tan y cyfnod 2026-32.

Bydd gwaith cwympo coed yn hanner y llannerch sy’n weddill yn cael ei wneud mewn modd rhagofalus er mwyn diogelu unrhyw wiwerod coch sy’n bresennol, a bydd yn cael ei wneud y tu allan i’r cyfnod magu. Bydd gwiriadau cadwraeth llannerch sy’n cael eu gwneud cyn y gwaith cwympo yn nodi unrhyw nythod gwiwerod sy’n bresennol ac yn hysbysu’r tîm rheoli ohonynt. Bydd methodoleg fonitro sy’n cael ei threialu yn Ynys Môn yn gymorth i CNC ddatblygu gwell dull gweithredu yn y dyfodol.

Gan nad yw Parc y Bwlch yn rhan o’r brif ardal gwiwerod coch, ni ddylid cymharu ei reolaeth â Chlocaenog lle bu hanes hir o reolaeth drwy ddull coedwigaeth gorchudd parhaus sy'n ffafrio gwiwerod coch. Nid yw dull coedwigaeth gorchudd parhaus yn bosibl ym Mharc y Bwlch lle mae'r coed mewn perygl o chwythu drosodd, ond mae’r dull yn rhan o’r Cynllun Adnoddau Coedwig ehangach lle bo hynny'n ymarferol. Bydd y gwaith cwympo coed ym Mharc y Bwlch yn helpu i sicrhau amrywiaeth o ran oedran y coed a bydd hyn o fudd i'r wiwer goch yn y tymor hir.

Trwyddedau cwympo coed a Deddf Coedwigaeth 1967

Mae cwympo coed yn cael ei reoleiddio o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 sy’n ei gwneud yn ofynnol fel arfer i berson gael trwydded torri coed gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn torri coed. Mae rhai esemptiadau lle nad oes angen trwydded, fel torri coed i reoli clefydau, atal perygl, neu dorri symiau bach o bren at ddefnydd personol. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru linell achosion 24 awri roi gwybod am achosion lle ceir amheuaeth o gwympo anghyfreithlon.

Mae trwydded yn rhoi awdurdod i gwympo coed dim ond lle na fyddai cwympo coed yn gyfreithlon fel arall o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967. Nid yw'n diystyru'r angen i gydymffurfio â deddfwriaeth arall.

Mae Deddf Coedwigaeth 1967 ar hyn o bryd yn caniatáu ychwanegu amodau at drwyddedau cwympo coed, ond dim ond i’w gwneud yn ofynnol i’r ardal gael ei hailstocio a’r coed newydd i gael eu cynnal am gyfnod o amser. Nid yw’n caniatáu ychwanegu amodau diogelu’r amgylchedd, megis sicrhau uniondeb safleoedd neu rywogaethau gwarchodedig.

Nid oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw bwerau ar hyn o bryd i ddiwygio, atal neu ddiddymu trwydded ar ôl ei rhoi os bydd rhywbeth am y gweithgaredd trwyddedig yn dod yn annerbyniol yn ddiweddarach. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â ffactorau a nodwyd ar ôl caniatáu’r drwydded, fel presenoldeb rhywogaethau a warchodir sydd wedi cael eu hepgor yn ddamweiniol neu’n fwriadol. Neu gallai fod yn achos o newid perchnogaeth yn arwain at newid amcanion, neu lle mae clefyd yn effeithio ar y dewis o rywogaethau wrth ailstocio.

2.     Y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru), sy'n mynd drwy'r Senedd, yn ceisio diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 er mwyn rhoi’r pŵer i Cyfoeth Naturiol Cymru ychwanegu amodau amgylcheddol at drwyddedau cwympo coed, ac i’w alluogi i ddiwygio, atal a diddymu trwyddedau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi papur ar sut y mae'n bwriadu gweithredu'r pwerau.

Mae’r Memorandwm Esboniadolsy’n cyd-fynd â’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn dweud, o dan y sefyllfa bresennol o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967, y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru roi trwydded cwympo coed a allai effeithio'n negyddol ar yr amgylchedd ac a allai fynd yn groes i ddeddfwriaeth amgylcheddol arall. Mae’n tynnu sylw at un o ddeisebau’r Senedd a gwblhawyd, P-06-1208, a oedd yn galw am newidiadau i Ddeddf Coedwigaeth 1967 i warchod cynefin gwiwerod coch fel enghraifft o anghysondeb rhwng y Ddeddf a deddfwriaeth amgylcheddol arall.

Ysgrifennodd y Gweinidog at Cyfoeth Naturiol Cymru (ym mis Mawrth 2022) yn dilyn y ddadl ar ddeiseb P-06-1208, yn gofyn iddo ystyried gwelliant parhaus drwy ddefnyddio’r arfer gorau yng Nghlocaenog o ran rheoli coetiroedd ar gyfer cadwraeth gwiwerod coch ar Ynys Môn. Mae ei llythyr yn mynd ymlaen i ddweud:

Ers hynny, mae’r gwaith a gomisiynwyd gan CNC i ddiweddaru’r data am boblogaeth y wiwer goch a choladu arferion gorau ar gyfer gweithio mewn ardaloedd lle mae gwiwerod coch wedi ei gwblhau. Mae’r adroddiad wedi ei gyhoeddi ac mae CNC yn gweithredu’r argymhellion. Bellach mae CNC yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda grwpiau gwiwerod neu’n cysylltu’n uniongyrchol gydag Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru ym mhob ardal.

3.     Y camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Bu dwy ddeiseb yn y Senedd i warchod poblogaethau gwiwerod coch rhag cwympo coed yn ystod y blynyddoedd diwethaf:

§    P-06-1208 ‘Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth’ (a gwblhawyd yn 2022); a

§    P-06-1225 ‘Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir’ (a gwblhawyd yn 2022).

Mae'r Senedd wedi bod yn craffu ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a'i ddarpariaethau cwympo coed drwy'r broses ddeddfwriaethol. Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig oedd yn gyfrifol am y gwaith craffu yng Nghyfnod 1. Roedd y Pwyllgor o blaid y darpariaethau coedwigaeth ond argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector coedwigaeth barhau i gydweithio ar ganllawiau a chyd-ddealltwriaeth ynghylch y pwerau newydd. Dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru a CNC weithio'n gyflym er mwyn canfod y data sydd ei angen i asesu effeithiolrwydd y darpariaethau newydd.

Yn fwy diweddar, diwygiwyd y Bil ar ôl Cyfnod 3 ar 16 Mai 2023. Pasiodd y Senedd welliannau amrywiol gan y Llywodraeth yn ymwneud â chwympo coed (Rhan 4 o'r Bil). Cyflwynwyd y gwelliannau gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd, a ddywedodd:

Mae'r gwelliannau yn angenrheidiol i sicrhau y cyflawnir y canlyniad polisi y dymunir ei gael o'r darpariaethau coedwigaeth yn deg, gan wneud y gyfraith yn hygyrch i'r darllenydd. Mae'r gwelliannau yn canolbwyntio ar ryngweithio'r darpariaethau coedwigaeth â gorchmynion cadw coed, darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiad i berchennog tir dilynol, a darpariaeth bellach yn ymwneud â hawliau apelio ac iawndal.

Nid yw'r gwelliannau hyn yn newid cwmpas a bwriad polisi'r darpariaethau fel y'u cyflwynwyd, sef diogelu bywyd gwyllt yn well a chyfyngu niwed amgylcheddol yn ystod gwaith cwympo.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.